Always on
This project successfully funded on 21st September 2025, you can still support them with a donation.
Crowdfunder is secure
Your payment details are protected
This project successfully funded on 21st September 2025, you can still support them with a donation.
Cerdded 45 milltir mewn 24 awr. Walk 45 miles in 24 hours. Casglu arian i ariannu Swyddog Hwb Rygbi i weithio yn ein ysgolion.
Mae CR Nant Conwy yn glwb cymunedol sy'n gwasanaethu cymuned cefn gwlad Llanrwst a Dyffryn Conwy. Mae hi'n ardal eang o Rowen i'r gogledd o'r clwb, i Langernyw a Cherrigydrudion i'r dwyrain, a Dolwyddlan a Chapel Curig i'r gorllewin. Mae ein adnoddau ni'n brin ac mae ein chwaraewyr yn teithio milltiroedd i ddod i chwarae rygbi, cymdeithasu a chreu cymuned gynhwysol gyfeillgar. Drwy nawdd gan URC, noddwyr, ysgolion a grantiau roedd gennym swyddog hwb oedd yn gyswllt rhwng y clwb a'r ysgolion. Ond mae URC wedi penderfynu dod a chynllun Swyddogion Hwb i ben. Ond yn Nant rydym yn awyddus i gynnal y cysylltiad a'r cydweithio gyda'r ysgolion. Mae'n rhoi yr un cyfle i bawb chwarae rygbi, yn dennu chwaraewyr newydd, yn dennu aelodau newydd ac yn magu sgiliau symudedd ac emosiynol. Dydan ni ddim am golli ein Swyddog Hwb!!
Mae ein hyfforddwyr ni yn gweld mor bwysig ydy rhoi cyfleoedd rygbi i'n plant yn ein ysgolion. Rydym i gyd yn gwybod bod cyllidebau ysgolion wedi cael eu gwasgu, ac rydym yn gwybod, os na fydd yna Swyddog Hwb yn ein ysgolion, yna fydd yna ddim rygbi chwaith, na thaith i chwarae yn erbyn ysgolion eraill, na phrofiadau sy'n creu cymeriadau. Dyma pam bod ein hyfforddwyr a ffrindiau'r clwb yn fodlon herio eu hunain a cherdded 45 milltir i nodi penblwydd Clwb Rygbi Nant Conwy yn 45!!
CR Nant Conwy is a community club serving the rural community of Llanrwst and the Conwy Valley. It is a large area from Rowen to the north of the club, to Llangernyw and Cerrigydrudion to the east, and Dolwyddlan and Chapel Curig to the west. Our resources are scarce and our players travel miles to come and play rugby, socialise and create an inclusive friendly community. Through the WRU initiative, sponsors, schools and grants we had a hub officer who was the liaison between the club and the schools. But the WRU has decided to end the Hub Officers scheme. However, in Nant we are eager to maintain the connection and collaboration with the schools. It provides the same opportunity for everyone to play rugby, attracting new players, attracting new members and developing mobility and emotional skills. We do not want to lose our Hub Officer!!
Our coaches see how important it is to provide rugby opportunities for our children in our schools. We all know that school budgets have been squeezed, and we know that without a Hub Officer in our schools, there won't be any rugby, no trips to play against other schools, or experiences that build character. This is why our coaches and friends of the club are willing to challenge themselves and walk 45 miles to celebrate the 45th anniversary of Nant Conwy Rugby Club!

Pam yr ydym yn casglu arian? Why are we crowdfunding?
Os fedrwn ni gyrraedd ein targed o £5000 mi fedrwn ni dalu am wasanaeth swyddog hwb yn ein ysgolion cynradd ac yn Ysgol Dyffryn Conwy. Mi fedrwn ni ofalu bod ein plant yn cael mynd i gystadlu ar ran yr ysgol yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mi fedrwn ni ofalu eu bod yn cael cyfleoedd sy'n mynd i gyfoethogi eu profiad o ysgol ac o chwarae mewn tim, ac y byddant yn dysgu am werthodd rygbi Cymru.
Mewn oes ble mae plant yn cael eu denu gan dechnoleg a chymdeithasu digidol, mae'n gyfrifoldeb arnom ni ddangos iddyn nhw fod yna werth mewn symud a bod yn rhan o gymuned rygbi y dyffryn.
If we can reach our target of £5000 we can pay for the services of a hub officer in our primary schools and at Ysgol Dyffryn Conwy. We can make sure that our children get to compete on behalf of the school regionally and nationally. We can make sure that they get opportunities that will enrich their experience of school and of playing in a team, and that they will learn about the values of Welsh rugby.
In an age where children are attracted by technology and digital socialising, it is our responsibility to show them that there is value in moving and being part of the rugby community in the valley.
(Llion ac Anna SH wedi trefnu i'r ysgolion cynradd ddod i Ysgol Dyffryn Conwy am ddiwrnod o rygbi.)

(Llion and Anna HO, organised a day of rugby for schools within the catchment of Ysgol Dyffryn Conwy)
Mae gennym hyfforddwyr rygbi cymwysiedig yn y clwb, sydd yn gweithio i Sir Conwy yn barod, maen nhw'n adnabod ein ysgolion ac yn uchel eu parch gan y staff a'r dysgwyr. Bydd yr arian yn ei gwneud hi'n bosib iddyn nhw weithio yn yr ysgolion gyda'n pobl ifanc ac i drefnu ymarferion, gemau a thwrnamentau.
We have qualified rugby coaches at the club, who already work for Conwy County, they know our schools and are highly respected by the staff and learners. The money will make it possible for them to work in the schools with our young people and to organize trainings, matches and tournaments.
Mae anog plant y dyffryn i mewn i fyd chwaraeon a byd rygbi yn bwysig ini ac mae pawb yn elwa o hynny, y clwb, yr ysgol, y rhieni, y chwaraewyr a'r gymuned yn ehangach. Gofynnwn yn garedig am eich cefnogaeth i hyfforddwyr y clwb a ffrindiau'r clwb, sy'n herio eu hunain ar Awst 23ain i gerdded 45 milltir o gwmpas dalgylch y clwb mewn 24 awr. Bydd tim cefnogol yn dilyn y cerddwyr a chriw i'w croesawy yn ôl i'r clwb.
Encouraging children in the valley into the world of sports and rugby is important to us and everyone benefits from it, the club, the school, the parents, the players and the broader community. We kindly ask for your support for the club coaches and club friends, who are challenging themselves on August 23rd to walk 45 miles around the club's catchment area in 24 hours. A support team will follow the walkers and a crew will welcome them back to the club.
Mae sawl peth y medrwch ei wneud i'n helpu.
1. Cyfrannwch i'r gronfa, bydd bob ceiniog yn help i gyrraedd y nod.
2. Lledaenwch y gair. Rhannwch ein prosiect ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol a gofynnwch i bawb ein cefnogi ni! Po fwyaf o bobl y byddwn yn eu cyrraedd, y mwyaf o gefnogaeth a gawn.
3. Mae croeso ichi gynnal gweithgaredd i'n cefnogi, efallai gweithgaredd noddedig neu debyg, defnyddiwch y botwm 'contact project/cyswllt prosiect' ar frig ein tudalen i roi gwybod i ni. Dim ond ychydig funudau y mae’n ei gymryd i sefydlu’ch tudalen eich hun ac ni fydd angen unrhyw fanylion banc arnoch. Dim ond syniad hwyliog!
There are a few ways to help us reach our target, and make this project a reality.
1. Make a pledge. Don’t delay if you’re going to support us because momentum is key to our success!
2. Spread the word. Share our project on your social media pages and tell the world to get behind us! The more people we reach, the more support we will get.
3. If you want to run your own fundraiser to support us, maybe a sponsored activity or similar, use the 'contact project' button at the top of our page to let us know. Setting up your own page only takes a few minutes and you won’t need any bank details. Just a fun idea!
Funding method
Keep what you raise – this project will receive all pledges made