Eleni, wynebodd cymunedau Cymru heriau na brofwyd erioed o’r blaen. Gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol Cymru, rydym yn cynorthwyo cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn.
- Mae nifer o bobl yn, ac wedi teimlo’n unig yn ystod COVID-19. Rydym yn defnyddio casgliadau cenedlaethol Cymru i wella lles preswylwyr mewn cartrefi gofal. Helpwch ni i barhau â’r gwaith hwn.
- Mae bod yn greadigol wedi helpu nifer o bobl o ddydd i ddydd. Rydym wedi bod yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd a gwirfoddolwyr yr amgueddfa i weu, gwehyddu, crosio neu ffeltio sgwariau enfys gartref, creu cwilt enfys enfawr, a chaiff blancedi eu creu o’r rhain ar gyfer elusennau lleol. Helpwch ni i gyrraedd ein nod.
- Mae nifer o bobl yn profi colled. Rydym yn gweithio gyda Cruse Bereavement Care i helpu gyda’r broses o alaru. Helpwch ni i barhau i gynnal sesiynau Cruse Bereavement yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
- Rydym yn rhoi llais i bobl ifanc a chyfleoedd iddyn nhw i weithio mewn awyrgylch celfyddydol. Helpwch ni i barhau i ddarparu cyfloedd i bobl ifanc ar draws Cymru.
- Cynhaliom gystadleuaeth Minecraft eich Amgueddfa, gan wahodd pobl ifanc i ddefnyddio eu dychymyg ac adeiladu amgueddfa eu breuddwydion yn Minecraft. Roedd yr ymateb yn anhygoel, gyda chynigion arbennig o bob rhan o Gymru a thu hwnt.
Dyma ambell esiampl o’n gwaith dros y misoedd diwethaf ac, mewn Cymru wedi COVID-19, rydym yn awyddus i adeiladu ar y gweithgareddau hyn gyda’ch cefnogaeth.
Helpwch ni i barhau â’r gwaith hwn a chyrraedd pawb fel hyn.

Bydd eich rhodd yn cefnogi’r broses o ofalu am, cadw, ac arddangos casgliad y genedl ac yn hwyluso gwaith ysbrydoledig y curaduron, y gwarchodwyr, y gwyddonwyr a’r addysgwyr.
Rhowch yn awr.
Diolch o galon,
Teulu Amgueddfa Cymru


This year, communities in Wales have faced challenges never experienced before. Using Wales’ national collections, we are helping them through these difficult times.
- Many people are, and have felt, alone during COVID-19. We are using Wales’ national collections to help improve the wellbeing of residents in care homes. Help us continue this work.
- Being creative has helped a number of people through their daily lives. We have been inviting members of the public and museum volunteers to knit, weave, crochet or felt rainbow squares at home, creating a giant rainbow quilt, out of which blankets will be made for local charities. Help us reach our goal.
- Many are experiencing loss. Working with Cruse Bereavement Care, we are helping to facilitate the process of grieving. Help us continue to host Cruse Bereavement sessions at St Fagans National Museum of History.
- We’re giving a voice to young people and opportunities for them to work in a cultural environment. Help us continue to provide opportunities to young people across Wales.
- We held a competition Minecraft Your Museum, inviting young people to use their imagination and build their dream museum using Minecraft. The response was overwhelming, and we received fantastic entries from all areas of Wales and beyond.
These are only a few examples of our work these past few months and, in a post-COVID-19 Wales, we want to build on these activities with your support.
Please help us continue this work and reach everybody in this way.

Your gift will support the care, preservation, and display of the nation’s collection and make the inspirational work of our curators, conservators, scientists and educators possible.
Please donate now.
Diolch o galon / Thank you,
The Amgueddfa Cymru family





