[Mae'r fersiwn Gymraeg i lawr y dudalen]
Rishi Sunak has called the election. We finally have the chance to move on from 14 years of chaos, cruelty, and decline.
But Keir Starmer is set to lead the most right-wing Labour government in history.
Whether it’s protecting the climate, solving the housing crisis, or treating refugees with dignity, time and time again Labour has ruled out scrapping Tory policies.
❌ They’ve scrapped £28 billion of vital climate investment before they’re even in government.
❌ No new money to rescue collapsing public services - even though the Welsh NHS needs £2.5 billion extra to match other European countries.
❌ Failed to support the people of Gaza in the face of the Israeli government’s shocking indiscriminate aggression
❌ Ruled out devolving desperately needed new powers like justice and rail to Wales
That’s where we come in. The Green Party has talented candidates ready to stand across Cardiff and the surrounding areas. They stand for:
✅ Beating rip-off cost rises by taking on the profiteers and bringing public services back into public ownership.
✅ A green industrial revolution to create decent, well-paid and unionised jobs.
✅ Ending weapons sales to Israel until the government is serious about long-term peace
✅ Give Wales funding to rescue the NHS and create thousands of new council homes.
The Green Party is surging across the UK. We’re polling above the Lib Dems at 11%, and we now have more than 800 councillors across the UK .
It’s no surprise since we’re the only party offering real hope and real change. We want to give everyone the chance to vote for our positive vision by standing in every seat across Wales and England.
At a general election, it costs £500 for each candidate to get on the ballot paper. We need to raise £2000 in just 11 days to make sure everyone has the chance to vote Green. This is the deadline for official paperwork to election managers - it can’t be moved.
Unlike Labour and the Tories, we don’t accept dodgy donations from millionaires. Everything we do is paid for by donations from people like you. If we don’t raise at least £2000 quickly, we risk losing the Green voice for change.
That’s where you come in. Your donation will help candidates like Meg get on the ballot:
"Communities in Cardiff want real change and real hope. To make that change possible, people like me need to be on the ballot paper. One of the really great things about the Green Party is that we don’t take money from big lobbies or corporations. You won’t find us being funded by developers, gambling or fossil fuels. We are funded by people like you."
Please help by giving whatever you can afford to help get us over the line. If we raise more than our goal, we’ll use the extra to pay for election literature to share our exciting vision with voters.
People are desperate for an alternative to the same old failed policies that broke our society in the first place.
By backing our candidates, you're championing a movement dedicated to transforming our society for the better. We know so many people share our vision, your donation will help make sure we can get our message out effectively.
Are you with us? Please donate today to put real hope on the ballot.
Diolch!
We're required to run electoral register checks from people making donations above £500, and if you donate over £1,500 during a year, we are required to let the Electoral Commission know, who will make this available on their website. All donations will go to election deposits, with any extra funding going towards general campaigning costs.
Promoted Tony Cooke on behalf of Cardiff, Vale and Valleys Green Party, both at The Gate, Keppoch Street, Cardiff, CF24 3JW
Mae Rishi Sunak wedi galw’r etholiad. O’r diwedd mae gennym gyfle i symud ymlaen o 14 blynedd o anrhefn, creulondeb a dirywiad.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod Keir Starmer yn paratoi i arwain y llywodraeth Llafur fwyaf asgell-dde erioed.
Dro ar ôl tro, os ydym yn edrych ar y polisïau ynghylch diogelu’r hinsawdd, datrys yr argyfwng tai neu drin ffoaduriaid â pharch, rydym yn gweld Llafur yn gwrthod dad-wneud drygioni’r Torïaid.
❌ Maen nhw wedi cefnu ar y polisi o fuddsoddi £28 biliwn sy’n angenrheidiol i ddelio â phroblemau’r hinsawdd cyn iddynt ennill grym
❌ Ni fydd arian newydd i achub y gwasanaethu cyhoeddus sydd yn gwegian – er bod angen £2.5 biliwn ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i ddal i fyny â’r hyn sydd mewn gwledydd eraill Ewrop
❌ Maent wedi methu â chefnogi pobl Gasa er gwaethaf ymosodiadau anfoesol lluoedd arfog Israel
❌ Yn gwrthod ystyried datganoli pwerau sydd eu hangen ar y Senedd yng Nghaerdydd, ym meysydd cyfiawnder a’r rheilffyrdd
Dyma le fyddwn ni’n sefyll yn y bwlch. Mae gan y Blaid Werdd ymgeiswyr talentog yn barod i fynd yn etholaethau Caerdydd a’r cylch. Maent yn frwdfrydig dros:
✅ Sicrhau chwyldro diwydiannol gwyrdd a fydd yn creu swyddi da, a chyflogau teg lle fydd cydnabyddiaeth o’r undebau
✅ Herio’r sawl sydd yn ecsbloetio cwsmeriaid gan godi prisiau i wneud elw, a dod â gwasanaethau cyhoeddus yn ôl i ddwylo’r cyhoedd
✅ Atal gwerthu arfau i Israel nes bod llywodraeth y wlad o ddifri am sicrhau heddwch parhaol
✅ Rhoi arian i Gymru i achub y Gwasanaeth Iechyd a chreu miloedd o dai cyngor newydd
Ar draws Prydain mae’r Blaid Werdd ar i fyny. Yn y polaui piniwn rydym uwchben y Rhyddfrydwyr gyda 10% o’r bleidlais, a bellach mae gennym dros 800 o gynghorwyr yng ngwledydd Prydain.
Nid yw hyn yn syndod oherwydd ni yw’r unig blaid sydd yn cynnig gobaith go iawn a newid go iawn. Rydym ni eisiau rhoi’r cyfle i bawb i bleidleisio dros ein polisïau cadarnhaol trwy sefyll ym mhob sedd ar draws Cymru a Lloegr.
Mewn Etholiad Cyffredinol, mae’n costio £500 i gael pob ymgeisydd ar y papur pleidleisio.
Mae angen i ni godi £2000 mewn dim ond 11 o ddiwrnodau i sicrhau bod gan bawb y cyfle i bleidleisio dros y Gwyrddion. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer y gweinyddwyr gwblhau’r gwaith papur swyddogol – nid oes modd newid hwn.
Yn wahanol i’r Blaid Lafur a’r Torïaid, nid ydym yn derbyn arian llwgr gan filiwnyddion. Ariannir popeth ni’n gwneud gan roddion oddi wrth bobl fel chi. Os nad ydym yn codi o leiaf £2000 ar frys, mae perygl y byddwn yn colli’r cyfle am lais Gwyrdd i sicrhau newid.
Dyma le rydym ni eich angen chi. Bydd eich rhodd o gymorth i roi ymgeiswyr fel Meg ar y papur pleidleisio:
“Mae cymunedau yng Nghaerdydd eisiau newid go iawn a gobaith go iawn. Er mwyn gwireddu’r newid hwn, mae angen pobl fel fi ar y papur pleidleisio. Un o agweddau bendigedig y Blaid Werdd yw nad ydym yn cymryd arian gan lobïwyr na chorfforaethau boliog. Ni fyddwch yn darganfod datblygwyr, neu gwmnïau gamblo neu tanwyddau ffosil yn ein cyllido. Rydym yn cael ein hariannu gan bobl fel chi.”
Plîs rhowch beth bynnag chi’n gallu i’n cynorthwyo i gyrraedd y nod. Os fyddwn yn codi mwy na’r targed, byddwn yn defnyddio’r gweddill i dalu am daflenni etholiadol i rannu ein gweledigaeth gyffrous gyda phleidleiswyr.
Mae pobl yn awchu am ddewis amgen i’r un hen bolisïau methiedig a dorrodd ein cymdeithas yn y lle cyntaf.
Gan gefnogi ein hymgeiswyr, rydych yn rhan o fudiad sydd yn ymroddedig i drawsnewid ein cymdeithas er gwell. Rydym yn gwybod bod toreth o bobl yn rhannu yn ein gweledigaeth a bydd eich cyfraniad yn sicrhau ein bod ni’n gallu lledaenu ein neges yn llwyddiannus.
A ydych chi’n barod? Plîs rhowch heddiw er mwyn rhoi gobaith go iawn ar y papur pleidleisio.
Diolch!
Mae angen arnom wirio ar y cofnod etholiadol pan fydd unigolion yn rhoi rhodd o dros £500, ac os ydych yn rhoi dros £1,500 yn ystod y flwyddyn, mae angen i ni adael gwybod i’r Gomisiwn Etholiadol, a chaiff yr wybodaeth ei chyhoeddi ar eu gwefan. Bydd pob rhodd yn mynd tuag at dalu’r ernes ar gyfer yr etholiad, gydag unrhyw beth sydd dros ben yn mynd tuag at gostau cyffredinol yr ymgyrch.
Hyrwyddwyd gan Tony Cooke ar ran Y Blaid Werdd, Caerdydd, Y Fro a’r Cymoedd, o The Gate, Keppoch Street, Caerdydd CF24 3JW