Mae podlediad Clera yn rhedeg ers mis Hydref 2016. Yn wir, dyma'r podlediad barddol mwyaf hirhoedlog a phoblogaidd yn yr iaith Gymraeg, heb sôn am fod ymysg y podlediadau hynaf yng Nghymru! Rydym yn ddiolchgar iawn i'w gwrandawyr am y gefnogaeth gyson a'r cyfraniadau i amryw eitemau a dymunwn allu chwistrellu mwy o egni a bywyd newydd i'r podlediad drwy ddefnyddio nawdd ariannol i gomisiynu cerddi yn arbennig ar ein cyfer. Dyna un o'r pethau y gallai eich nawdd ei gynnig. Rydym hefyd yn agored i syniadau ac yn ceisio datblygu'r podlediad yn barhaus.