Pwy yde ni / Who are we?
Clwb sy'n cael ei redeg er budd y gymuned leol gan ei aelodau yw Clwb Golff Y Bala a leolir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngogledd Cymru. Mae gan y cwrs golff ei hun 10 twll ac adeiladwyd y clwb yn 1973.
Mae'r Clwb yn darparu cyfleusterau i gymuned Penllyn i hyrwyddo mynediad a chyfranogiad mewn golff. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un â'r ffioedd yn fwriadol yn cael eu cadw mor fforddiadwy â phosibl er mwyn parhau i fod yn Glwb hygyrch i hyrwyddo iechyd a lles trigolion lleol.
Ar gyfer ardal Y Bala a thu hwnt, mae'r Clwb yn adnabyddus fel lleoliad poblogaidd a phwysig ac mae'n llawer mwy na chlwb golff. Mae'n ganolfan gymunedol ac yn adnodd ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir gan glybiau, cymdeithasau, elusennau a busnesau lleol ac yn fangre i'r Gymraeg. O ran twristiaeth, mae'n adnodd a darpariaeth bwysig i'r economi leol gan fod y cwrs golff agosaf dros 25 milltir i ffwrdd.
Bala Golf Club is a very important community hub providing golf and event facilities for the Bala and Penllyn area in the heart of the Eryri National Park.
Pam codi arian / Why are we crowdfunding?
Fel Clwb, rydym yn cydnabod bod angen gwella'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer ein hadran iau ffyniannus. Mae'r sied bren bresennol a ddefnyddir gan yr ieuenctid i storio clybiau a'u hoffer yn druenus o annigonol ac mae angen ei adnewyddu. Gweithdy oedd y sied cyn hynny ond roedd yn rhaid i ni newid ei ddefnydd oherwydd y galw am ofod ar gyfer ein hadran. Fodd bynnag, nid yw'r adeilad hwn wedi'i fwriadu nac yn addas ar gyfer y defnydd hwn. Mae cronfeydd wrth gefn ariannol y Clwb yn isel yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn ail-doi adeilad y clwb yn 2024, felly rydym wedi sefydlu'r ymgyrch ariannu torfol hon i'n helpu i ddarparu cyfleusterau y mae ein hadran iau yn eu haeddu ac y gallant fod yn falch ohonynt, a fydd yn eu tro yn cefnogi hyfywedd tymor hir y Clwb.
We need to provide better provision for our junior section who currently have to use an old workshop to change and store their equipment. Club reserves are depleted following the reroofing of the clubhouse in 2024 hence the necessity for this crowdfunding appeal.
Sut caiff yr arian ei wario / How we’ll spend the money
Rydym yn bwriadu defnyddio pob ceiniog o'r arian a godir i ddymchwel a gwaredu'r sied bren bresennol, ymgymryd â'r gwaith tîr angenrheidiol a gosod pad concrit i adeiladu strwythur ffrâm ddur a fydd yn gartref i loceri, cyfleusterau newid a storio diogel ar gyfer ein hadran iau.
We want to use the funds raised to provide a brand new building for our junior section.
Community impact
Fel y soniwyd eisoes, yn ogystal â darparu cyfleusterau golff i chwaraewyr o bob oed, mae Clwb Golff Y Bala yn leoliad digwyddiadau poblogaidd a phwysig iawn a ddefnyddir yn rheolaidd gan nifer o glybiau chwaraeon, cymdeithasau, elusennau a busnesau lleol a hynny yn aml trwy gyfrwng y Gymraeg. Drwy gefnogi'r ymgyrch hon i wella darpariaethau ar gyfer ein hadran iau byddwch yn buddsoddi yng nghynaladwyedd hirdymor y Clwb i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu parhau i fwynhau'r ystod o gyfleusterau a gynigir i gymuned leol ardal Y Bala a thu hwnt.
As a local facility, by supporting Bala Golf Club with this crowdfunding appeal you will not only be investing in our thriving junior section but also helping secure the long term viability of the Club for the benefit of the local community that it serves.
Sut allwch wneud eich rhan / How you can play your part
Mae pedair ffordd syml i'n helpu i gyrraedd ein targed, a gwneud y prosiect hwn yn realiti.
1. Gwneud addewid. Peidiwch ag oedi os ydych chi'n mynd i'n cefnogi ni oherwydd mae momentwm yn allweddol i'n llwyddiant!
2. Lledaenu'r gair. Rhannwch ein prosiect ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol a dywedwch wrth y byd am ein cefnogi! Po fwyaf o bobl rydyn ni'n eu cyrraedd, y mwyaf o gefnogaeth y byddwn ni'n ei gael.
3. Cynnig gwobrau. Cymerwch ran os ydych chi'n fusnes lleol drwy gyfrannu pethau y gallwn eu cynnig i'n cefnogwyr. Byddwn yn rhoi sylw arbennig i chi!
4. Codi arian i ni. Os ydych chi am redeg eich digwyddiad codi arian eich hun – gweithgaredd noddedig neu debyg efallai, rhowch wybod i ni trwy gysylltu at [email protected] am gyfarwyddiadau pellach i gysylltu â'r dudalen hon.
The easiest way you can help us reach our target is to donate by taking advantage of the various rewards we have on offer and encourage others to do the same! Every little helps!
Diolch yn fawr am bob cefnogaeth!