Ffilm animeiddio 2D fer yw Holm

by AMMO Animation in Newport, , United Kingdom

Ffilm animeiddio 2D fer yw Holm

Total raised £45

raised so far

2

supporters

Ffilm fer animeiddiedig 2D am berthynas tad a merch ac am iaith hynafol hardd y Gymru fodern.

by AMMO Animation in Newport, , United Kingdom

Mae’r ffilm fer "Holm" yn defnyddio animeiddio 2D i ddweud stori Cati, merch ifanc sy'n cychwyn ar ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol, a’i bywyd fel oedolyn. Mae'r ffilm yn rhoi darlun hyfryd o’i pherthynas agos â'i thad ac angerdd y ddau dros achub adar Adar Drycin Manaw sy’n mynd ar goll. Trwy’r naratif hwn mae’r ffilm yn trafod themâu twf personol, cynhesrwydd cartref, a'r heriau a wynebir wrth ddechrau byw yn annibynnol. Yn ei hanfod, mae "Holm" yn adrodd stori deimladwy am hunan-ddarganfod a'n cysylltiad â natur. Mae taith Cati yn cyfateb i daith yr aderyn coll, gyda'r ddau yn teimlo ychydig ar chwâl yn y byd mawr o’u cwmpas. Dyma themâu y gall pawb uniaethu â nhw, a gyda darluniau trawiadol y ffilm hynod hon gwelwn sut mae cwlwm Cati â'r aderyn yn ei helpu hithau i ddod o hyd i’w ffordd yn y byd.

 Mae'r darluniau llaw yn yr animeiddiad hwn yn creu arddull cynnes a theimladwy, tebyg i lyfr braslunio. Rydym yn gweld gwead y papur yn y ffilm, sy’n ategu’r naws personol ac agos-atoch.  Caiff y gwylwyr  eu tynnu i mewn yn ddyfnach i daith emosiynol Cati, wrth i’r delweddau adlewyrchu profiadau a gwendidau'r cymeriadau mewn modd perthnasol.

 Yn ogystal, mae "Holm" yn cyffwrdd â'r teimlad cyffredinol o hiraeth am adref. Wedi'i hysbrydoli gan brofiadau personol y Cyfarwyddwr, mae'r ffilm yn ystyriaeth feddylgar o hiraeth a'r awydd am bethau cyfarwydd, tra hefyd yn cofleidio'r heriau a'r cyfleoedd sy'n cyd-fynd â thyfu i fyny.

 Adroddir y stori o ddau bersbectif: un Cati a'i thad. Mae'r tad yn sylweddoli bod ei ferch yn aeddfedu, ac er ei fod yn dymuno ei chadw'n agos a'i gwarchod, mae'n deall pwysigrwydd caniatáu iddi ddilyn ei llwybr ei hun. Mae'n dweud wrthi ei fod bob amser ar ben arall y ffôn os bydd angen cymorth arni.

 Ysbrydolwyd awdur y ffilm gan ei ferch ifanc ei hun.  Iddo ef, mae "Holm" fel myfyrdod am sut y gallai yntau lywio sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol. Mae ei gariad at ei ferch, ei gefndir diwylliannol, a harddwch ei filltir sgwâr yn y gorllewin, wedi dylanwadu’n sylweddol ar naratif y ffilm.

 Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth wrth i ni nesáu at gwblhau ein prosiect. Er ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, mae angen arian ychwanegol arnom i gwblhau'r animeiddiad. Mae'r daith hon wedi bod yn llawn boddhad, o ddatblygu ein syniad i sicrhau cyllid cynhyrchu gan Ffilm Cymru Wales a'r BBC fel rhan o’r ce find transynllun Beacons. Ar yr adeg hollbwysig hon, byddai eich cymorth yn amhrisiadwy. Mae arwyddocâd arbennig i'r prosiect hwn gan ei fod yn dathlu Cymru a'r Gymraeg, iaith hardd sy'n haeddu sylw a chefnogaeth. Diolch am ystyried ein cais.

 Byddai unrhyw gyfraniad, waeth beth fo'r maint, yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Ein nod yw rhannu ein hiaith gyntaf gyda'r byd ac amlygu talentau ein tîm bach ond gwych. Mae'r Gymraeg wedi wynebu heriau dros y blynyddoedd, ac mae prosiectau creadigol fel hyn yn hanfodol wrth ddathlu ei harddwch a thanlinellu ei harwyddocâd fel agwedd hanfodol ar ddiwylliant Cymru a diwylliannau eraill llai adnabyddus Prydain. Bydd eich cefnogaeth yn ein galluogi i hyrwyddo'r Gymraeg ymhellach. 

Fel arwydd o'n diolchgarwch, byddwn yn sicrhau bod yr holl gyfraniadau yn cael eu cydnabod yn y credydau terfynol, ac unwaith y bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau, byddwn yn hapus i roi dolen breifat i chi ei gweld (gydag isdeitlau Saesneg, os oes angen).

Diolch yn fawr. 

Mae hwn yn brosiect gan Winding Snake Productions. https://www.windingsnake.com/short-films/holm

Or enter custom amount

Show your support

Payment and personal details are protected