Aim: A fundraising project at Treberfedd Farm to re-thatch a Grade II listed, last of it’s kind, Welsh vernacular farmhouse.
(Scroll down for Welsh/Sgroliwch i lawr ar gyfer y Gymraeg)
We are inviting you to pledge support by buying vouchers for a future holiday in The Thatched Cottage at Treberfedd in Ceredigion, West Wales. For the money you donate, you will receive a voucher for the equivalent amount towards a holiday or short break.
Your donation will go towards the employment of a Welsh master thatcher to completely re-roof the cottage using traditional skills and Welsh harvested water reed. The master thatcher will also be teaching the time honoured traditional thatching skills to apprentices as he works.
The Thatched Cottage at Treberfedd Farm is in desperate need of some TLC, 23 years on from its last restoration, the roof has seen better days and it's time to be replaced.
Your donation will help us restore the roof on this beautiful building while booking you or your family a chance to enjoy a holiday at our farm in West Wales.
The thatched cottage is a Grade II listed Georgian Farmhouse (one of the last of its kind!) and even features original authentic wall paintings from the 1700s.
It has been described by Cadw, who look after the historic buildings of Wales, as “an unusually complete late Georgian vernacular farmhouse, an extremely rare survival of this regional building type with its character retained. Well-preserved mid/late C19 additions, the whole a highly attractive group."
Guests who come to stay here say it's like stepping back in time.
The Thatched Cottage is a very important part of the history of our farm and because of this, we are very keen to continue to use natural & sustainable materials and traditional methods to re-thatch it back to its former glory.
“Each voucher bought will aid in the restoration of Welsh heritage & support traditional country skills, ensuring that this beautiful building will be preserved for generations to come” Farmer at Treberfedd, Jack Cockburn said.
Our fundraiser ‘Raising the Roof’ will bring the Thatched Cottage back to its former glory. As a holiday cottage the thatched cottage at Treberfedd Farm has four bedrooms, sleeps up to 7 people and includes a hot tub in the garden! Your donation will purchase a voucher for a holiday in this picture perfect cottage.
The farmhouse features original wall paintings from the 1700s. The paintings were a surprise find during the restoration in 2000.
Farmer Jack’s family has been at Treberfedd for over 20 years. Since 1999 the farm has been a popular holiday destination with two converted barns, the original thatched cottage and a modern farmhouse plus eco cabins and glamping.
In 1999 the thatched cottage was dilapidated and had been abandoned by the previous owner. In the year 2000 Jack’s father Jim employed a local builder, Euros Lewis and architect, Huw Davies, to restore it back to its former glory, saving an important piece of Welsh farming heritage.
Farmer Jack, who is leading the restoration project, has been farming at Treberfedd for over 20 years.
Treberfedd Farm holiday cottages and eco cabins lie at the heart of west Wales, just fifteen minutes from Cardigan Bay’s fabulous sandy beaches and small harbour towns like Aberaeron and New Quay. The farm has panoramic views from it’s hilltop setting over-looking the Aeron Valley and Cambrian Mountains.
The holiday cottages and cabins at Treberfedd are surrounded by organic meadows and woodland. The farm has been certified organic for 18 years meaning no chemical pesticides or fertilisers are used on the land. Jack’s family have planted over 19,000 broadleaf trees on the farm and created nature walks for visitors to enjoy. The holiday accommodation is partly powered by the farm’s own wind turbine and solar panels. The farmland is home to many species of wildlife and is open for guests staying at the farm to explore. The farm also plays a part in the conservation of rare breeds by keeping a rare local breed of sheep, the ‘LLanwenog’ and traditional Hereford cows.
The Thatched Cottage that stands at Treberfedd today was built sometime before or during the 1600s.
In 1802 the single storey cottage was extended and improved, creating a larger space with a beautifully modelled Georgian frontage, symmetrical chimneys and the same thatched roof that we have today.
It was listed Grade II in 1996 as an unusually complete Georgian Vernacular Farmhouse, an extremely rare survival of this regional building type with its character retained, probably one of the last of its kind.
Restoration work on the house in 2002 uncovered some wall paintings dating back to around 1650. The murals were painted using plant-derived pigments in a floral motif style which was very fashionable in the 17th century.
There are similar examples dating back to the same period on church walls in and around the South and East of England. The murals may well have been created by a travelling artist passing through Aeron’s Vale, who could be hired to paint the interior walls of people’s homes. The wall paintings are now a very rare survival, particularly in South West Wales.
Rydyn ni’n eich gwahodd i addo cefnogaeth drwy brynu talebau am wyliau yn y dyfodol yn y Bwthyn To Gwellt ar Fferm Treberfedd, Ceredigion. Am yr arian a roddwch, byddwch yn derbyn taleb am y swm cyfatebol tuag at wyliau neu seibiant byr.
Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at gyflogi meistr to gwellt Cymreig i ail-doi’r bwthyn yn llwyr gan ddefnyddio sgiliau traddodiadol a chorsen ddŵr Gymreig. Bydd y meistr hefyd yn dysgu'r hen grefft draddodiadol o doi i brentisiaid wrth iddo weithio.
Mae'r Bwthyn To Gwellt ar Fferm Treberfedd mewn angen dybryd am rywfaint o gariad a gofal; 23 mlynedd ers ei adferiad diwethaf, mae'r to wedi gweld dyddiau gwell ac mae'n bryd ei newid.
Bydd eich cyfraniad yn ein helpu i adfer y to ar yr adeilad hardd hwn wrth archebu cyfle i chi neu'ch teulu fwynhau gwyliau ar ein fferm yng ngorllewin Cymru.
Mae'r bwthyn to gwellt yn ffermdy Sioraidd rhestredig Gradd II (un o'r olaf o'i fath!) a hyd yn oed yn cynnwys paentiadau wal gwreiddiol o'r 1700au.
Fe'i disgrifiwyd gan Cadw, sy'n gofalu am adeiladau hanesyddol Cymru, fel "ffermdy brodorol o’r cyfnod Sioraidd hwyr sy’n anarferol o gyflawn. Dyma oroesiad prin iawn o'r math hwn o adeilad rhanbarthol gyda'i gymeriad wedi cael ei gadw. Ychwanegiadau o ganol / diwedd y 19eg ganrif sydd wedi'u cadw'n dda, a’r cyfan yn grŵp hynod ddeniadol. "
Mae gwesteion sy'n dod i aros yma yn dweud ei fod fel camu'n ôl mewn amser.
Mae’r Bwthyn To Gwellt yn rhan bwysig iawn o hanes ein fferm ac oherwydd hyn, rydyn ni’n awyddus iawn i barhau i ddefnyddio deunyddiau naturiol a chynaliadwy a dulliau traddodiadol i’w ail-doi yn ôl i’w hen ogoniant.
"Bydd pob taleb a brynir yn helpu i adfer treftadaeth Gymreig ac yn cefnogi sgiliau gwledig traddodiadol, gan sicrhau y bydd yr adeilad hardd hwn yn cael ei gadw am genedlaethau i ddod," meddai Jack.
Bydd ein hymgyrch codi arian, 'Raising The Roof', yn dod â'r Bwthyn To Gwellt yn ôl i'w hen ogoniant. Fel bwthyn gwyliau, mae gan y bwthyn to gwellt ar Fferm Treberfedd bedair ystafell wely, lle cysgu i hyd at 7 o bobl, ac mae twba twym yn yr ardd hefyd! Bydd eich cyfraniad yn prynu taleb am wyliau yn y bwthyn deniadol hwn.
Mae'r ffermdy yn cynnwys paentiadau wal gwreiddiol o'r 1700au. Roedd y paentiadau yn ddarganfyddiad annisgwyl yn ystod y gwaith adfer yn 2000.
Mae teulu Jack wedi bod yn ffermio yn Nhreberfedd ers dros 20 mlynedd. Ers 1999, mae'r fferm wedi bod yn gyrchfan wyliau boblogaidd gyda dwy ysgubor wedi'u haddasu, y bwthyn to gwellt gwreiddiol, y ffermdy modern, a’r cabanau eco a glampio.
Ym 1999, roedd y bwthyn to gwellt yn adfail a’r perchennog blaenorol wedi ei adael. Yn y flwyddyn 2000, aeth Jim, tad Jack, ati i gyflogi’r adeiladwr lleol, Euros Lewis, a’r pensaer, Huw Davies, i adfer y bwthyn yn ôl i'w hen ogoniant, gan arbed darn pwysig o dreftadaeth ffermio yng Nghymru.
Mae Ffermwr Jack yn arwain y prosiect adferiad gyda tim o staff.
Mae bythynnod gwyliau a chabanau eco Fferm Treberfedd yng nghanol gorllewin Cymru, dim ond 15 munud i ffwrdd o draethau tywodlyd gwych Bae Ceredigion a threfi harbwr bach fel Aberaeron a Chei Newydd. Mae gan y fferm olygfeydd eang o'i lleoliad ar ben y bryn, gan edrych dros Ddyffryn Aeron a thua Mynyddoedd Cambria.
Mae'r bythynnod gwyliau a'r cabanau yn Nhreberfedd wedi'u hamgylchynu gan ddolydd a choetir organig. Mae'r fferm wedi'i hardystio yn organig ers 18 mlynedd, sy'n golygu na ddefnyddir plaladdwyr na gwrtaith cemegol ar y tir. Mae teulu Jack wedi plannu dros 19,000 o goed llydanddail ar y fferm ac wedi creu teithiau cerdded natur i ymwelwyr eu mwynhau. Mae'r llety gwyliau yn cael ei bweru'n rhannol gan dyrbin gwynt a phaneli solar y fferm ei hun. Mae tir y fferm yn gartref i lawer o rywogaethau o fywyd gwyllt ac mae ar agor i westeion sy'n aros ar y fferm ei grwydro. Mae'r fferm hefyd yn gwneud ei rhan yn y gwaith o warchod bridiau prin drwy gadw brîd lleol prin o ddefaid, y 'Llanwenog', ynghyd â gwartheg Henffordd traddodiadol.
Adeiladwyd y Bwthyn To Gwellt sy'n sefyll yn Nhreberfedd heddiw rywbryd cyn neu yn ystod y 1600au.
Ym 1802, cafodd y bwthyn un llawr ei ymestyn a'i wella, gan greu gofod mwy gyda ffrynt Sioraidd wedi'i fodelu'n hyfryd, simneiau cymesur, a'r un to gwellt sydd gennym heddiw.
Fe'i rhestrwyd yn Radd II ym 1996 fel ffermdy brodorol Sioraidd anarferol o gyflawn – goroesiad prin iawn o'r math hwn o adeilad rhanbarthol gyda'i gymeriad cadwedig. Dyma un o’r olaf o'i fath, mae'n debyg.
Yn 2002, datgelodd gwaith adfer ar y tŷ rai murluniau yn dyddio'n ôl i tua 1650. Cafodd y murluniau eu paentio gan ddefnyddio pigmentau sy'n deillio o blanhigion mewn arddull motiff blodeuol a oedd yn ffasiynol iawn yn yr 17eg ganrif.
Ceir enghreifftiau tebyg sy'n dyddio'n ôl i'r un cyfnod ar waliau'r eglwys yn ne a dwyrain Lloegr a'r cyffiniau. Mae'n ddigon posibl bod y murluniau wedi cael eu creu gan artist teithiol wrth iddo fynd trwy Ddyffryn Aeron. Câi’r artist hwn ei gyflogi i baentio waliau mewnol cartrefi pobl. Mae'r murluniau bellach yn oroesiad prin iawn, yn enwedig yn ne-orllewin Cymru.