Lle i Chwaraeon: Meini prawf cymhwysedd ac addewid
Cynllun buddsoddi cyfalaf Chwaraeon Cymru ar gyfer gwella cyfleusterau chwaraeon cymunedol
Version dated: April 2025
Cyflwyniad
Nod y buddsoddiad yma yw helpu cyllido torfol gan sefydliadau cymunedol ar gyfer gwaith cyfalaf (adeiladu neu adnewyddu) a fydd yn gwella mannau yn eu hardal leol, i alluogi pobl i gael profiad gwell ac i sicrhau bod cyfleusterau’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol.
Mae ein buddsoddiad cyfatebol, o hyd at £15,000, wedi'i dargedu at grwpiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi nodi problem, wedi ymgynghori â'u cymuned ynghylch sut i ddatrys y broblem ac sy’n ceisio buddsoddiad i symud eu prosiect yn ei flaen.
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae'r cyllid cyfatebol yma wedi'i gynllunio i helpu grwpiau cymunedol i gyflwyno prosiect i greu, gwella neu ailddatblygu lle cymunedol ar gyfer chwaraeon.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i sefydliadau fod yn un o’r canlynol:
● Sefydliadau nid-er-elw yn y sector elusennol, cymunedol, gwirfoddol a chymdeithasol sy'n darparu chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn eu cymuned.
● Er budd pobl sy'n byw yng Nghymru.
● Ceisio buddsoddiad ar gyfer cyfleusterau mewnol neu allanol / gwaith moderneiddio
● Cynnwys y gymuned leol wrth ddatblygu a chyflwyno eu prosiect.
Nid yw’r canlynol yn gymwys ar gyfer cyllid:
● Unigolion neu unig fasnachwyr
● Busnesau neu bartneriaethau er elw
● Ysgolion, colegau a phrifysgolion
● Darparwyr chwaraeon a gweithgarwch corfforol masnachol, e.e. campfeydd preifat
● Gweithredwyr hamdden gan gynnwys ymddiriedolaethau hamdden
● Y sefydliadau hynny sydd wedi defnyddio Cronfa Darparwyr Preifat Chwaraeon Cymru yn y gorffennol
Ar gyfer pob cais, os ydych chi’n gysylltiedig â chwaraeon risg uchel, rhaid i chi fod yn aelod o Gorff Rheoli Cenedlaethol a gydnabyddir gan Chwaraeon Cymru cyn y gellir ystyried eich cais. Fe welwch ragor o wybodaeth am gyrff rheoli chwaraeon risg uchel yma: https://www.sport.wales/files/56254f77c19c5e3d44eeec08e7c3f15a.docx
Blaenoriaethau
Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau sydd yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i sicrhau bod ein buddsoddiad cyfatebol yn cyrraedd y rhai sydd mewn angen mwyaf. Bydd y rhain yn sefydliadau sy’n gwneud un neu’r ddau o’r canlynol:
● Cyflwyno gweithgarwch mewn ardaloedd sy'n profi amddifadedd cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys cymunedau gwledig
● Gweithio gydag un neu fwy o'r grwpiau canlynol fel prif ffocws:
- pobl anabl
- grwpiau economaidd-gymdeithasol is
- pobl Dduon, Asiaidd a phobl o gefndiroedd ethnig amrywiol eraill
Bydd addewid Chwaraeon Cymru yn cynyddu i 60% (o gyfanswm targed prosiect) os yw’r prosiect wedi’i leoli yn un o’r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (yn ôl MALlC) a / neu’n targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon.
Eithriadau
Mae rhai pethau nad ydym yn gallu eu cyllido. Dyma’r rhain yn bennaf, ond nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr:
● Prosiectau nad ydynt o fudd i bobl sy'n byw yng Nghymru
● Ceisiadau gan unigolion, neu sydd er budd un unigolyn
● Sefydliadau sy'n ceisio dosbarthu grantiau ar ein rhan
● Ar gyfer gwaith sydd wedi digwydd eisoes
● Cerbydau, gan gynnwys bysiau mini
● Prosiectau refeniw yn unig (h.y. costau staff a theithio, llogi lleoliad, offer heb fod yn sefydlog)
● Buddsoddiadau cyfalaf ‘ar y cae’ h.y. draenio cae, llifoleuadau – (Mae posib gwneud cais ar gyfer y rhain drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yma)
● Cynnal a chadw ac atgyweirio rheolaidd o ganlyniad i draul
● Meysydd chwarae ac offer chwarae plant
● Prosiectau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer elw preifat
● Prosiectau rydym wedi’u cyllido yn y gorffennol
● Ymgyrchoedd sydd ond yn cynnig raffl fel Gwobrau
● Ymgyrchoedd sydd ond yn cynnig Gwobrau ar ffurf ffioedd aelodaeth neu danysgrifiadau
● Ymgyrchoedd Ar Gau neu Bob Amser ar Crowdfunder
Rydym hefyd yn annhebygol o gefnogi ceisiadau:
● Os yw sefydliadau mewn diffyg ariannol difrifol
● Gan elusennau cenedlaethol mawr sy'n cael cefnogaeth eang
Meini Prawf Addewid
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, byddwch yn cael cyllid cyfatebol o 50%* tuag at eich targed cyllid torfol cychwynnol, hyd at uchafswm o £15,000. Bydd y cynnig hwn yn ddilys am 4 wythnos ar ôl y dyddiad hysbysu. Os na fyddwch yn lansio eich ymgyrch cyllido torfol o fewn 4 wythnos i'r hysbysiad, bydd y cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Yn dilyn cymeradwyaeth ar gyfer cyllid, os ydych chi’n dymuno gwneud unrhyw newidiadau i darged eich ymgyrch, neu unrhyw newidiadau sylweddol i'ch gwobrau neu gynnwys arall ar y dudalen, rhaid i chi roi gwybod i ni. I dderbyn addewid, bydd angen i chi wneud dau beth (‘amodau’r addewid’):
1. codi o leiaf 25% o'ch targed cychwynnol,
2. codi hwn gan leiafswm penodol o Gefnogwyr unigryw.
I wirio a yw Cefnogwyr yn unigryw byddwn yn ystyried gwybodaeth gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: enw, cyfeiriad, cyfeiriadau e-bost a’r cerdyn talu a ddefnyddiwyd.
Y nifer lleiaf o Gefnogwyr unigryw sydd eu hangen yw:
● 25 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed hyd at £5,000
● 50 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £5,001 a £10,000
● 75 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed rhwng £10,001 a £15,000
● 100 o Gefnogwyr unigryw os yw eich targed dros £15,000
Os na fydd y naill neu'r llall o'r amodau hyn yn cael eu bodloni, bydd yr addewid yn cael ei ddal yn ôl nes bod y ddau wedi'u bodloni. Os bodlonir y ddau amod yma, bydd Chwaraeon Cymru yn addo 50%* o’ch targed, hyd at uchafswm o £15,000. Wedyn mae'n rhaid i chi barhau i godi arian i gyrraedd 100% o'ch targed cyllido a derbyn arian Chwaraeon Cymru. Os bydd y prosiect yn methu â chyrraedd 100% o'r targed fe fydd addewid Chwaraeon Cymru yn cael ei ganslo. Bydd perchennog y Prosiect yn cael ei annog i adolygu'r hyn aeth o'i le ac, os yw hynny'n briodol, gwneud cais am gyllid torfol eto.
* Bydd addewid Chwaraeon Cymru yn cynyddu i 60% (o gyfanswm targed prosiect) os yw’r prosiect wedi’i leoli yn un o’r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (yn ôl MALlC) a / neu’n targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn chwaraeon.
Nodyn – Mae Chwaraeon Cymru yn cadw’r hawl i amrywio’r meini prawf addewid hyn; caiff prosiectau eu hysbysu os bydd meini prawf eu haddewid yn amrywio o'r telerau a nodir uchod.
Gofynion ychwanegol
Byddwch yn anghymwys i gael cyllid gan Chwaraeon Cymru os, yn ôl disgresiwn Chwaraeon Cymru yn unig, nad yw’n fodlon bod yr holl addewidion o ran Cefnogwyr ar gyfer eich prosiect yn addewidion dilys. Os gwelir bod prosiectau neu addewidion yn dwyllodrus, yn dwyllodrus o bosibl, neu'n dangos camddefnydd o’r addewid ar gyfer prosiect er mwyn cael cyllid cyfatebol, mae hyn yn cael ei gymryd o ddifrif.
Lle bo hynny'n briodol:
● Bydd eich cais am gyllid yn cael ei wrthod a bydd unrhyw ymrwymiad presennol am gyllid yn cael ei dynnu'n ôl.
● Mae'n bosibl y bydd eich prosiect cyllido torfol yn cael ei ganslo, ac na fyddwch yn gymwys ar gyfer ceisiadau neu brosiectau yn y dyfodol.
● Cymerir camau i adennill cyllid sydd wedi'i dalu.
Mae’n ofynnol i bob prosiect sy’n cael ei gyllido gytuno i Amodau Grant Lle i Chwaraeon Chwaraeon Cymru.
Dylech lawrlwytho a chadw copi o'r ddogfen hon ac Amodau'r Grant.