Cynllun buddsoddi cyfalaf Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru ar gyfer gwella cyfleusterau chwaraeon cymunedol

Amodau’r Grant 

Version dated: [July 2024]

Nodir isod amodau cyffredinol Chwaraeon Cymru.

Hawlio eich grant

Rhaid i chi gymryd eich grant o fewn tri mis i ddiwedd eich ymgyrch cyllido torfol neu fel arall bydd eich cynnig o grant yn dod i ben. Os oes oedi cyn cymryd eich grant, trafodwch hyn gyda ni fel ein bod yn gallu ystyried a allwn ymestyn yr amserlen y gallwch dderbyn eich grant oddi mewn iddi.

Rhaid i'ch prosiect adeiladu neu adnewyddu ddechrau o fewn chwe mis i ddiwedd eich ymgyrch cyllido torfol. Os oes oedi cyn dechrau eich gwaith, trafodwch hyn gyda ni  ([email protected]).

Dim ond at y dibenion penodol y cafodd ei roi y dylid defnyddio'ch grant, fel y nodir ar eich tudalen ymgyrch Cyllido Torfol. Mae'n gyfyngedig i’r dibenion hyn yn unig.

Gwerthuso

Bydd gofyn i chi gwblhau arolwg am eich prosiect a'ch profiad cyllido torfol, 8 wythnos ar ôl i'ch ymgyrch cyllido torfol gau. Bydd gofyn hefyd i sefydliadau a ddewisir ar hap gwblhau Cofnod Adlewyrchu 3 i 4 mis ar ôl i'r ymgyrch gau. Hefyd efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn cyfweliad byr am eich profiad o'r gronfa. Rydych yn cytuno i'ch manylion cyswllt gael eu trosglwyddo i ni at y diben hwn ac i gyflwyno unrhyw wybodaeth yn brydlon.

Gellir gofyn am ffotograffau neu fideo o'ch gwaith adeiladu neu adnewyddu, yn ddelfrydol i arddangos y prosiect cyn ac ar ôl ei gwblhau.

Brandio a Chydnabyddiaeth

Efallai yr hoffem ddefnyddio manylion eich ymgyrch a'n grant i ffurfio rhan o astudiaeth achos y byddwn yn ei chyhoeddi ar ein gwefan i ddangos arfer da a darparu cefnogaeth i sefydliadau eraill sy'n dymuno defnyddio cyllido torfol fel ffynhonnell amgen o gyllid. Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar y cynnwys gyda chi. Dilynwch ganllawiau brandio Chwaraeon Cymru os ac wrth hyrwyddo eich prosiect.

Materion Sefydliadol

Rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau mawr i'ch sefydliad. Gall hyn gynnwys unrhyw uno sydd ar y gorwel, anawsterau ariannol, colli cyllid sylweddol, newidiadau sylweddol mewn staffio, a / neu faterion y Comisiwn Elusennau / Tŷ'r Cwmnïau. Os byddwch chi'n newid eich cyfeiriad neu'ch manylion cyswllt, rhowch wybod i ni ar e-bost ([email protected]), gan ddarparu manylion eich cyfeiriad newydd a'ch manylion cyswllt.

Rydym yn cadw'r hawl i adhawlio, lleihau, amrywio neu ddal y grant yn ôl yn gyfan gwbl neu'n rhannol os byddwch yn methu cydymffurfio ag unrhyw elfen uchod a / neu os nad ydych yn cydymffurfio â'r gyfraith.